Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
12.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12992
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
George Dunn, Tenant Farmers Association Rhys Evans, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Alexander Phillips, WWF Cymru Andrew Tuddenham, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Arfon Williams, RSPB Eleanor Jarrold, Cymdeithas Cominwyr Craig Evan Leyshon John Lloyd, Cymdeithas Genedlaethol Defaid Cymru Dr Jonathan Davies, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Robert Donovan, Clerc Sarah Bartlett, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Katy Orford, Ymchwilydd Katie Wyatt, Cynghorydd Cyfreithiol Masudah Ali, Cynghorydd Cyfreithiol Gruffydd Owen, Cynghorydd Cyfreithiol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Nid oedd dirprwy ar ei ran.
1.3 Dywedodd Samuel Kurtz AS ei fod yn un o gyfarwyddwyr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
2.3 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
3 Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan RSPB Cymru, y Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur, Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
3.1 Bydd RSPB Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am gynigion ar gyfer lleihau cymorth pontio.
3.2 Bydd cynrychiolydd Cyswllt Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch tynhau'r diffiniadau yn y Bil.
4 Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a Chraig-Evan-Leyshon.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Preifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.